Senedd Cymru 
 Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol
  
 Tlodi tanwydd a’r Rhaglen Cartrefi Clyd
 Crynodeb o'r gwaith ymgysylltu
 Dydd Llun 21 Mawrth 2022

 

 

 

 

 

 

 


Cefndir

Fel rhan o ymchwiliad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, ‘Tlodi tanwydd a’r Rhaglen Cartrefi Clyd’, cynigiodd y Tîm Ymgysylltu â Dinasyddion ddull ansoddol o ymgysylltu, gan gynnwys cyfres o gyfweliadau un-i-un ag unigolion sydd â phrofiad o’r Rhaglen Cartrefi Clyd, unigolion sydd mewn tlodi tanwydd neu mewn perygl o hynny, a landlordiaid yn y sector preifat.

Cynhaliwyd 19 o gyfweliadau un-i-un ac un grŵp ffocws ar-lein rhwng 3 Chwefror a 10 Mawrth 2022. At ei gilydd, rhannodd 22 o gyfranwyr ar draws holl ranbarthau'r Senedd – mewn ardaloedd trefol a gwledig – eu barn.

Cyfranwyr

Roedd cyfansoddiad y cyfranwyr yn amrywio ac yn cynnwys tenantiaid cymdeithasol, tenantiaid preifat, landlordiaid preifat a pherchen-feddianwyr.

I’r rhai sydd â phrofiad o’r Rhaglen Cartrefi Clyd, roedd gan rai brofiad o gynlluniau Nyth ac Arbed, tra bod gan eraill brofiad o un o’r cynlluniau hynny yn unig. Nid oedd rhai o’r cyfranwyr yn gymwys ar gyfer y Rhaglen, roedd rhai yng nghanol eu profiad gyda’r Rhaglen, ac roedd eraill wedi gorffen eu profiad gyda’r Rhaglen.

Daethpwyd o hyd i’r cyfranwyr trwy nifer o grwpiau a sefydliadau cymunedol gan gynnwys Age Cymru, Sefydliad Bevan, Anabledd Cymru, Canolfan Datblygu Cymunedol De Glan-yr-Afon a Chomisiwn Swansea Poverty Truth. Roedd nifer o gyfranwyr yn gysylltiadau a oedd yn bodoli eisoes, ac ymatebodd rhai i negeseuon ar sianeli cyfryngau cymdeithasol y Senedd.

Diolch i bawb a gyfrannodd at y rhaglen ymgysylltu.

Fformat

Cynhaliwyd 11 o gyfweliadau ar-lein ar Microsoft Teams, a chynhaliwyd wyth cyfweliad arall dros y ffôn. Cynhaliwyd un grŵp ffocws ar Zoom. Roedd rhai cyfranwyr yn cael eu cefnogi gan gynrychiolwyr o sefydliadau/grwpiau, yr oeddent yn gysylltiedig â nhw, er bod y cynrychiolwyr hyn yn cymryd rhan mewn rôl oddefol yn bennaf.

Roedd y fformat ymgysylltu yn debyg i raddau helaeth ar draws y cyfweliadau a’r grŵp ffocws, ond roedd yn amrywio ychydig i ymateb i’r safbwyntiau, y profiadau a’r syniadau a oedd yn cael eu rhannu gan gyfranwyr.

Daeth y themâu canlynol i’r amlwg yn sgil y trafodaethau.

Profiadau o dlodi tanwydd

“Pan wyt ti dros hanner cant oed ac yn gorfod mynd at dy dad i ofyn os allai gael arian i roi yn y mesurydd. Bu farw fy nhad fis Gorffennaf diwethaf felly dyw hynny ddim yn bosib i mi. Felly mae eleni yn mynd i fod yn anodd iawn…”

Tenant cymdeithasol, Abertawe.

Rhannodd llawer o gyfranwyr yr heriau maent yn eu hwynebu wrth reoli eu defnydd o ynni, a’r camau maent yn eu cymryd yn aml i leihau effaith defnydd ynni ar eu hincwm. Eglurodd y rhai a ddywedodd eu bod yn byw mewn tlodi tanwydd, neu mewn perygl o hynny, y byddent yn aml yn osgoi defnyddio offer cartref mawr cymaint â phosibl, ac y byddent yn gwisgo haenau ychwanegol o ddillad yn rheolaidd i osgoi gwresogi eu cartref.

“Oherwydd fy mesurydd clyfar, rwy’n gallu sylwi pa bethau sy’n cael yr effaith fwyaf. Mae gen i fentiau amrywiol ar y waliau am wahanol resymau, ond mae eu rhoi ymlaen yn golygu cynnydd mawr mewn pris ynni felly dyw hi ddim gwerth gwneud hynny ac mae’n well gen i agor ffenest. Rwy’n berwi’r tegell cyn lleied â phosib a phrin yn defnyddio’r meicrodon erbyn hyn. Mae e mor ddrud â hynny… gyda’r cynnydd a ragwelir mewn costau ynni mae’n rhywbeth sy’n peri pryder, felly rwy’n ceisio lleihau fy ngwariant mewn ffyrdd eraill i geisio paratoi ar gyfer hynny.”

Tenant cymdeithasol, Abertawe.

Mae dogni’r defnydd o wres yn ddigwyddiad rheolaidd i lawer o gyfranwyr sy’n addasu eu harferion gwresogi yn dibynnu ar eu hamgylchiadau. Dangosodd un cyfrannwr enghraifft amlwg o hyn pan eglurodd y byddai ei chwaer, sydd â chanser, yn dod i aros gyda hi’n fuan. Felly byddai angen iddi wneud rhai addasiadau cyn iddi ddod i aros er mwyn gwneud yn siŵr bod ei chwaer yn gyfforddus.

“…mae’n bwriadu aros gyda fi i gael triniaeth radiotherapi yn ein hysbyty lleol. Felly dydw i ddim wedi bod yn rhoi’r gwres ymlaen cymaint er mwyn ei gadw at pan fydd hi yma.”

Buddiolwr cynllun Nyth ac Arbed, Conwy.

“…efallai y gwnaf i roi’r gwres ymlaen am awr, cau’r drws a rhoi un rheiddiadur ymlaen yn y brif ystafell rwy’n ei defnyddio, dim ond er mwyn cael gwared ar yr oerfel mawr. Ac rwy’n agor a chau’r drws yn gyflym iawn pan rwy’n gadael yr ystafell.”

Tenant cymdeithasol, Abertawe.

Cyfeiriodd y cyfranwyr yn aml at y cynnydd mewn costau byw a’r cynnydd a ragwelir mewn costau ynni wrth drafod eu pryderon ar gyfer y dyfodol. Eglurodd llawer eu bod eisoes yn ymwybodol iawn o’u defnydd o ynni ac yn ofni y byddai unrhyw addasiadau pellach yn golygu dewis rhwng gwresogi a bwyta.

“Bwyd yw fy mhryder mwyaf oherwydd rwy’n hoffi gwneud yn siŵr fy mod yn gallu darparu pryd o fwyd da i fy mab… Rwyf eisoes wedi defnyddio’r banc bwyd fwy o weithiau na’r hyn sy’n cael ei ganiatáu ar gyfer y chwe mis nesaf. Felly gyda chost gynyddol mewn ynni, peidio gallu defnyddio’r banc bwyd; fe fydd rhaid i mi ddewis a ydw i am wresogi’r tŷ ynteu fwyta.”

Tenant cymdeithasol, Abertawe.

Esboniodd un landlord preifat, yn ei brofiad ef, fod landlordiaid preifat yn fwyfwy ymwybodol o effeithlonrwydd ynni eu heiddo, gan y bydd cartref cynnes yn aml yn golygu tenantiaid hapusach, hirdymor. Mae ef wrthi’n uwchraddio rhai o’i eiddo, ond eglurodd fod y pandemig wedi cael effaith ar sefyllfa ariannol llawer o landlordiaid preifat.

Effaith gadarnhaol y Rhaglen Cartrefi Clyd

“Ro’n i’n teimlo fy mod i’n aros am amser hir rhwng llenwi’r ffurflen a nhwythau yn cysylltu â mi, ond unwaith i’r broses ddechrau roedd yn gyflym iawn ac yn effeithlon”

Buddiolwr cynllun Arbed, Rhondda Cynon Taf.

Rhannodd rhai cyfranwyr brofiadau cadarnhaol o’r Rhaglen Cartrefi Clyd, gan egluro bod ei heffaith ar eu costau tanwydd, yn ogystal â’u hiechyd a’u lles wedi bod yn drawsnewidiol. Cyfeiriwyd yn aml at deimlo’n “diolchgar” am y gwelliannau effeithlonrwydd ynni a wnaed i’w cartrefi.

Mynegodd cyfranwyr â materion iechyd a/neu anabledd hyn yn gryf, gan esbonio, er bod gostyngiad mewn costau tanwydd i’w groesawu, bod y gwelliant amlwg yn eu hiechyd a’u lles yn amhrisiadwy.

Astudiaeth achos A

Lleoliad:  Casnewydd.

Eiddo: Perchen-feddiannaeth, 1950au, tŷ wedi’i adeiladu â cherrig, tŷ pâr.

Mesurau sydd wedi’u gosod: Boeler newydd a rheiddiaduron newydd.

Rhannodd astudiaeth achos A ei brofiad gwych gyda chynllun Nyth. Ar yr adeg y cysylltodd â Nyth am y tro cyntaf, roedd yn gwella ar ôl llawdriniaeth ar y galon ac yn dioddef o nifer o broblemau iechyd, a oedd yn golygu ei fod yn arbennig o agored i’r oerfel. Roedd yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer pecyn o fesurau effeithlonrwydd ynni. Disgrifiodd y profiad gyda Nyth yn “ardderchog”, gan ymhelaethu “Allai ddim eu canmol nhw mwy.”

I’r rhai a ddywedodd mai gostyngiad mewn costau tanwydd oedd prif fantais y gwelliannau effeithlonrwydd ynni a wnaed i’w cartrefi, disgrifiodd nifer o gyfranwyr maint y gostyngiad yn “arwyddocaol”.Esboniodd un cyfrannwr fod ei rhieni oedrannus, sy’n byw yn Rhondda Cynon Taf, wedi derbyn paneli solar fel rhan o gynllun Arbed ac wedi gweld eu biliau ynni yn haneru ers hynny. Disgrifiodd cyfrannwr arall, a gafodd fudd o gynllun Nyth, fod effaith y newidiadau yn “anhygoel.”

“Mae’r biliau tanwydd wedi gwella ers i mi gael diweddariadau Nyth… mae’r gwaith y mae Nyth wedi’i wneud wedi gwenud gwahaniaeth i mi. Dwi’n credu fy mod i’n arfer talu £250 yn hawdd cyn cael y cynllun Nyth. Fe wnaethon nhw osod pwmp gwres ffynhonnell aer i mi gydag arian y llywodraeth ac mae hynny wedi lleihau fy miliau yn arthurol. Felly yn yr haf maent wedi gostwng i tua £40 y mis, ac yn y gaeaf maent tua £190 y mis, sy’n dda.”

Buddiolwr cynllun Nyth ac Arbed, Conwy.

“Mae’r gwres canolog yn llawer mwy effeithlon, cyn hynny roedd gennym hen danc ond erbyn hyn mae gennym system sy’n edrych llawer neisiach ac sy’n fwy effeithlon. Mae rheoli’r gwres a’r tymheredd yn dda iawn.”

Buddiolwr cynllun Arbed, Rhondda Cynon Taf.

Profiadau negyddol o’r Rhaglen Cartrefi Clyd

Rhannodd nifer o gyfranwyr brofiadau negyddol o’r Rhaglen Cartrefi Clyd, er bod y rhain yn ymwneud yn bennaf â chynllun Arbed. Er bod yr holl gyfranwyr sydd â phrofiad o Arbed yn croesawu egwyddor y cynllun a’i fanteision cysylltiedig, beirniadwyd y ffordd y cafodd ei weithredu mewn nifer o agweddau.

Astudiaeth achos B

Lleoliad:  Conwy.

Eiddo: 1960au, tŷ wedi'i adeiladu o gerrig, yn rhannol dan berchnogaeth trwy gynllun y llywodraeth.

Mesurau sydd wedi’u gosod: Paneli solar o dan y cynllun Arbed. System pwmp gwres ffynhonnell aer lawn a rheiddiaduron o dan gynllun Nyth.

Mae astudiaeth achos B yn fam sengl sy’n byw mewn cymuned wledig heb brif gyflenwad nwy. Cafodd brofiad cadarnhaol o gynllun Nyth, ond roedd yn feirniadol o nifer o agweddau ar gynllun Arbed. Yn ei barn hi, y prif fater oedd “doedd gan Arbed ddim gweledigaeth glir i bobl.”

“…nid oeddent yn ymateb i negeseuon e-bost, roedden nhw ond yn siarad dros y ffôn a nid oeddent byth yn rhoi dim yn ysgrifenedig. Roedden nhw’n llusgo eu traed.

Nododd y rhan fwyaf o gyfranwyr oedd â phrofiad o Arbed fod cyfathrebu, neu ddiffyg cyfathrebu, yn fater arwyddocaol. Roedd llawer yn rhwystredig pan oeddent yn teimlo nad oedd Arbed yn gallu rhoi cyfiawnhad tryloyw dros y penderfyniadau a wnaed, yn enwedig pan fyddai rhai yn elwa ar y cynllun, tra nad oedd eraill mewn amgylchiadau tebyg yn cael budd. Eglurodd un cyfrannwr y gallai hyn greu ymdeimlad o ymraniad rhwng cymunedau.

“Roedd pobl yn ysu am gael rhywbeth ac unwaith eto, roedd y cyfathrebu gan Arbed yn ofnadwy. Roedd tai ar rai strydoedd yn cael cynnig paneli solar. Roedden nhw’n rhoi rhyw ddeg neu ddeuddeg ar rai tai i ddechrau. Yna fe wnaethon nhw leihau’r nifer a dim ond gosod wyth ar ôl iddyn nhw eisoes osod deg i ddeuddeg ar rai tai… felly achosodd hynny anawsterau gan fod rhai wedi cael mwy nag eraill… a dweud y gwir, roedd e’n teimlo fel nad oedden nhw’n gwybod beth oeddent yn ei wneud.”

Buddiolwr cynllun Arbed, Conwy.

“Fe fydden i’n dweud bod y paneli solar yn ddiwerth. Nid ydyn nhw’n storio ynni ac nid ydynt yn rhoi ynni yn ôl i’r grid, felly maent ond o werth ar ddiwrnod heulog ac nid ydych chi’n defnyddio cymaint o drydan ar ddiwrnod heulog. Er enghraifft, ar ddiwrnod fel heddiw, fe fydden ni eisiau defnyddio’r peiriant sychu dillad, ond dydyn ni ddim yn cynhyrchu unrhyw drydan oherwydd ei bod yn ddiwrnod cymylog.”

Buddiolwr cynllun Arbed, Rhondda Cynon Taf.

Profiadau cymysg o’r Rhaglen Cartrefi Clyd

“Roedd Nyth yn dda iawn ond fe wnaeth fy nghymydog gais yn ddiweddar ac ers iddi wneud cais maen nhw wedi colli ffordd ychydig. Mae hi wedi bod yn aros ers rhyw naw mis ac maen nhw ond yn defnyddio cwmnïau o dde Cymru i ddod yr holl ffordd fyny i’r gogledd. Rwyf wedi bod yn aros am wasanaeth ar fy ngwresogydd pwmp aer ers mis Tachwedd gyda Nyth ac rwyf wedi eu ffonio bedair gwaith ac maent yn dod â chwmni yr holl ffordd o dde Cymru er mai cwmni 15 munud lawr y ffordd wnaeth ei osod.

Buddiolwr cynllun Nyth, Conwy.

Roedd y rhan fwyaf o’r cyfranwyr â phrofiad o gynllun Nyth yn gadarnhaol ar y cyfan ynghylch y ffordd y caiff ei weithredu a’r manteision cysylltiedig, gan bwysleisio eu bod yn gwerthfawrogi’r cymorth a dderbyniwyd. Fodd bynnag, awgrymodd rhai y gellid gwella’r cynllun gydag ychydig o newidiadau, yn ôl un o’r cyfranwyr. Roedd rhai o’r awgrymiadau yn cynnwys sicrhau bod yr amserlenni ar gyfer cyflawni yn rhesymol, ac awgrymu y gallai’r cynllun gynnwys technoleg cartref clyfar i reoli’r defnydd o ynni. 

Astudiaeth achos C

Lleoliad:  Blaenau Gwent

Eiddo: Bwthyn teras, perchennogaeth-feddianwyr, wedi’i adeiladu o gerrig.

Mae profiad astudiaeth achos C gyda Nyth yn mynd rhagddo ar hyn o bryd. Mae wedi cael arolwg technegol yn ddiweddar ar ei eiddo ac mae’n aros am gysylltiad gyda chadarnhad o’r camau nesaf. Fodd bynnag, dyma’r ail arolwg technegol y mae wedi’i gael ond ni chafod wybod pam bod angen ail arolwg arno. Dywedodd fod profiad ei gymydog â Nyth wedi cymryd 12 wythnos, ond mae blwyddyn wedi pasio iddo ef ac mae’r broses yn dal i fynd rhagddi.

I’r rhai â phrofiadau cadarnhaol cyffredinol o gynllun Arbed, roedd unrhyw feirniadaeth yn ymwneud yn bennaf â’r anghysondebau canfyddedig yn y dull, yr awgrymodd un cyfrannwr y gellid ei briodoli i’r dull a gymerir gan is-gontratwyr sy’n gyfrifol am y gwaith. 

Astudiaeth achos D

Lleoliad:  Rhondda Cynon Taf.

Eiddo: Tŷ teras, perchennogaeth-feddianwyr, wedi’i adeiladu o gerrig.

Mesurau sydd wedi’u gosod: Rheiddiaduron a bylbiau golau newydd.

Esboniodd astudiaeth achos D ei bod yn gymwys ar gyfer mesurau effeithlonrwydd ynni o dan y cynllun Arbed a disgrifiodd ei phrofiad cyffredinol yn “dda iawn”. O dan y cynllun, derbyniodd ddeg rheiddiadur newydd ond pan ofynnodd am reiddiadur dwbl, dywedwyd wrthi na fyddai hyn yn bosibl gan y byddai angen eu newid “tebyg am eu tebyg.” Fodd bynnag, dywedodd fod y wybodaeth a roddwyd i’w chymydog, a oedd hefyd yn cael budd o’r cynllun, yn wahanol.

Bu rhai cyfranwyr yn trafod y gwaith a wnaed gan is-gontractwyr sy’n gyfrifol am osod y mesurau effeithlonrwydd ynni, gan fynegi dryswch ynghylch sut yr ymdriniwyd â’r gwaith. Fodd bynnag, roedd rhai yn gadarnhaol am yr effaith ar gymunedau lleol.

“Fy nghymydog drws nesaf a ddywedodd wrthyf am y cynllun Arbed – roedd ei chais ar ôl fy un i, ond gwnaed ei chais hi, sef gosod mesurau, ychydig wythnosau cyn fy un i, ond cafodd ei wneud gan gwmni gwahanol. Felly er ein bod ni drws nesaf i’n gilydd, roedd gennym ni gwmnïau gwahanol yn delio â’n ceisiadau, a oedd braidd yn rhyfedd yn fy marn i. Doeddwn i ddim yn meddwl bod hynny’n effeithlon iawn gan fod gennych chi ddau gwmni yn dod allan… siawns, os byddech chi’n byw drws nesaf y byddech chi’n defnyddio un cwmni i wneud y ddau dŷ. Gallwch chi weld y gwahaniaeth, achos mae eu paneli solar yn wahanol i’n un ni.”

Buddiolwr cynllun Arbed, Rhondda Cynon Taf.

“Y peth da am Arbed yw eu bod yn defnyddio contractwyr lleol, felly’r cwmnïau sgaffaldiau lleol oedd yn gwneud y gwaith, sy’n bonws. Roedd llawer iawn o waith yma gyda sgaffaldiau, felly maen nhw’n bendant yn rhoi arian yn y pot lleol.”

Buddiolwr cynllun Arbed a Nyth, Conwy.

“Roedd yn frawychus, ond mae hynny oherwydd diffyg goruchwyliaeth ar ran y contractwyr. Roedden nhw'n hollol ofnadwy.”

Buddiolwr cynllun Arbed, Ceredigion.

Ymwybyddiaeth o’r Rhaglen Cartrefi Clyd

Dywedodd y rhan fwyaf o’r cyfranwyr sydd â phrofiad o’r Rhaglen Cartrefi Clyd fod ymwybyddiaeth o’r rhaglen ymhlith y cyhoedd yn isel. Eglurodd nifer o gyfranwyr eu bod wedi dod yn ymwybodol o’r rhaglen “trwy siawns”, ar ôl cael gwybod gan ffrindiau, drwy weithio i sefydliad fel Cyngor ar Bopeth, neu drwy fynd i ddigwyddiad lle’r oedd cynrychiolwyr Nyth a/neu Arbed yn bresennol.

Astudiaeth achos E

Lleoliad:  Rhondda Cynon Taf.

Eiddo: Tŷ teras, perchennogaeth-feddianwyr, wedi’i adeiladu o gerrig.

Mesurau sydd wedi’u gosod: Boiler newydd, system gwres canolog newydd a phaneli solar.

Gwnaeth astudiaeth achos E fynd i ddiwrnod agored yn ei chanolfan gymunedol leol lle daeth ar draws cyn-gydweithwyr a ddywedodd wrthi y gallai fod yn gymwys ar gyfer gwelliannau effeithlonrwydd ynni drwy gynllun Arbed.

“Ni ddaeth unrhyw beth ysgrifenedig i ni fel cymuned; doedd dim posteri, doedd dim gwybodaeth. Roeddwn i’n ffodus fy mod yn digwydd bod yno ac yn nabod y bobl hyn roeddwn i’n arfer gweithio gyda nhw… roedden ni eisoes wedi cael tri o bobl gwres canolog i roi amcanbris ac roedden ni bron yn barod i gyflogi rhywun i wneud y gwaith i ni, a dim ond drwy lwc pur yr aethon ni i’r digwyddiad. Rwy’n teimlo y byddai llawer o fy nghymdogion wedi bod yn gymwys ac nad oeddent yn gwybod amdano… lwc oedd e, ac ni ddylai fod felly…”

Roedd consensws cyffredinol ymhlith cyfranwyr sydd â phrofiad o’r Rhaglen Cartrefi Clyd y dylid gwneud mwy i godi ymwybyddiaeth o gynlluniau y gallai pobl fod yn gymwys ar eu cyfer. Eglurodd rhai cyfranwyr hefyd bod pobl yn cael gwybodaeth mewn gwahanol ffyrdd ac felly roedd yn bwysig hyrwyddo’r rhaglen drwy’r sianeli gwahanol.

“Roedd rhai pobl a glywodd amdano yn meddwl mai rhyw faith o dwyll ydoedd gan ei fod am ddim. Nid oedden nhw’n meddwl y gallech chi gael unrhyw beth am ddim ac ni wnaethon nhw gais… oherwydd ei fod yn cael ei alw’n ‘Arbed’ nid oeddent yn ei adnabod fel cynllun gan y cyngor neu’r llywodraeth. Dwi ddim yn meddwl bod yr enw yn rhoi hyder i bobl ac os fyddai’r llythyrau yn dod gan y llywodraeth, fe fyddent yn fwy tebygol o’i gredu.”

Buddiolwr cynllun Arbed, Rhondda Cynon Taf.

Gwella’r Rhaglen Cartrefi Clyd

Rhannodd nifer o gyfranwyr eu syniadau ar sut i wella’r Rhaglen Cartrefi Clyd. Er bod pobl yn derbyn ar y cyfan bod angen meini prawf i asesu a yw unigolyn yn gymwys ar gyfer y Rhaglen, roedd rhai cyfranogwyr o’r farn bod y ffordd y caiff y Rhaglen ei chymhwyso yn ymddangos yn anghyson yn aml.

Esboniodd un cyfrannwr, yn ei barn hi, fod meini prawf cymhwysedd cynllun Arbed yn cael eu cymhwyso’n rhy gaeth, sy’n golygu bod y rhai oedd â’r angen mwyaf yn colli allan. Roedd rhai cyfranwyr yn bendant y dylai unrhyw fersiwn newydd o gynllun Arbed gynnwys ffenestri a drysau hefyd, hyd yn oed os cânt eu hariannu’n rhannol, gan fod unrhyw fudd a geir o osod mesurau effeithlonrwydd ynni yn cael eu colli os oes diffygion mewn mannau eraill o’r eiddo.

“O ran y meini prawf, pan roedden nhw’n dweud ei fod yn ymwneud â’r Tystysgrif Perfformiad Ynni neu’r EPC – roedd yn rhaid iddo symud dri phwynt ar yr EPC er mwyn ei wneud yn werth chweil, neu i gyd-fynd â meini prawf Llywodraeth Cymru. Mae hynny’n iawn i Lywodraeth Cymru, ond gallai codi’r eiddo  gan un llythyren yn unig wneud gwahaniaeth i fil person o £20 i £30 y mis… roedden nhw’n dweud wrth y bobl hynny ‘nid yw’n ddigon dda’, ond roedd yn golygu rhywbeth i’r bobl hynny…”

Buddiolwr cynllun Arbed a Nyth, Conwy.

“Dwi ddim yn credu o’r hyn rydw i wedi’i glywed bod cynllun Arbed yn targedu’r bobl â’r angen mwyaf oherwydd mae’n ymddangos i mi bod pobl sydd ychydig yn fwy craff, fel fi, wedi clywed amdano ac yn gallu manteisio arno. Ond dwi wir ddim yn meddwl ei fod yn targedu’r bobl dlotaf… dydyn ni ddim yn gyfoethog, ond roedden ni ar fin talu am system gwres canolog newydd beth bynnag, ond roedden ni’n lwcus i’w gael am ddim.”

Buddiolwr cynllun Arbed, Rhondda Cynon Taf.

Roedd un cyfrannwr a gafodd brofiad negyddol o’r cynllun Arbed yn credu bod angen gwneud nifer o newidiadau i sicrhau bod y cynllun yn cyflawni’r diben a fwriadwyd. Roedd y newidiadau hynny yn canolwyntio ar sefydlu “pentref enghreifftiol”. Eglurodd y cyfrannwr y dylai’r holl eiddo a gafodd gyfres o fesurau effeithlonrwydd ynni yn ystod y cam cyntaf gael eu harolygu eto gan nodi llinell sylfaen ansawdd. Yna gellid cyflwyno mesurau ychwanegol, fel rhagor o baneli, storio ynni, inswleiddio a chynlluniau ymgysylltu â phreswylwyr, yn ystod ail gam. Y bwriad fyddai sefydlu glasbrint i’w ddilyn mewn meysydd eraill.

Astudiaeth achos F

Lleoliad:  Conwy

Eiddo: Eiddo carreg/brics o’r 1920au gyda tho llechi heb ffelt a gwres olew.

Mesurau sydd wedi’u gosod: Paneli solar.

Rhannodd astudiaeth achos F ei brofiad o gynllun Arbed.

“Nid yw’r 8 panel sydd wedi’u gosod yn ddigon i wella effeithlonrwydd ynni’r eiddo. Os oes gan yr eiddo ddrysau gwael, ffenestri gwael, ffelt gwael ar y to neu ddim ffelt o gwbl, inswleiddio gwael ac aneffeithlonrwydd pellach yn arwain at golli gwres yna bydd unrhyw fudd a gynigir gan baneli solar yn cael ei negyddu os na chaiff yr agweddau hyn eu cywiro. Yn ogystal, nid yw eiddo sydd wedi’i leoli ar ben bryn, fel yn fy achos i ac sy'n agored i elfennau’r gaeaf, yn debyg i eiddo ar dir is sydd yng nghanol stâd o dai. Mae llawer o eiddo yng Nghymru mewn lleoliadau agored, rhywbeth y dylid ei grybwyll mewn EPC.”